Cefais lawer o gyfeillach a charedigrwydd gyda'r Parchedigion canlynol; sef Richard Jones, gweinidog yr Annibynwyr yn Cartside Street, Mr. Owen, gweinidog y Bedyddwyr, Rowland Hughes, gweinidog y Wesleyaid, ac yn neillduol Owen Jones, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd. Gwr mawr mewn gwirionedd ydyw Mr. Jones fel pregethwr, cyfieithydd, ac areithydd, bron heb ei fath; ac hefyd y mae yn wr siriol, dirodres, a diragfarn, yn rhoddi parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus, ac yn gymwynasgar i'w israddolion pan eu gwelo mewn angen am gynorthwy. Gwnaeth waith campus a gorchestol wrth gyfieithu llyfr y Parchedig Baptist Noel. Gresyn os oes rhai o'r llyfrau hyny yn aros ar ei law eto heb eu gwerthu; y maent yn drysor gwerthfawr, a dylai pob Cymro a Chymraes rhyddfrydig sydd yn medru darllen, ac yn cashau hen ddefodau llygredig ymdrechu eu pwrcasu yn ddioedi.
Gwelais lawer o ryfeddodau yn Mancenion—y Factories lle y mae yr holl weithydd cottwm, a miloedd o feibion a merched yn gweithio ynddynt; ond ni arosais ond pymtheg-nos yno, gan fy mod wedi arfaethu dychwelyd yn ol yn fuan i Lynlleifiad, a phrysuro oddiyno adref i Gymru.
Wedi ffarwelio gyda'm perthynasau a'm cyfeillion, dychwelais gyda'r train cyntaf yn ol i Lynlleifiad, yn iach a llwyddiannus. Yna aethym i ymweled a'm cyfeillion oll sydd yno ac yn Birkenhead; ac wedi i mi ffarwelio â phawb o honynt, eisteddais i lawr yn nhŷ fy mab Morris, a gwnaethym gynllun o fy nhaith tuag adref trwy siroedd a threfydd Gogledd Cymru; a chyfansoddais yr englynion a ganlyn allan o law, a llyma hwynt oll i bawb a ewyllysiont eu gweled a'u darllen." Pan ddaeth y dydd apwyntiedig i ben, dechreuais fel hyn:—