eddigaidd ac ardderchog yr oeddynt yn rhodio yn ol ac yn mlaen yn mreichiau eu gilydd cyn myned i'r cabanod i ddiosg eu gwisgoedd porphoraidd a sidanaidd, Yna ceisiais gyfansoddi tri neu bedwar o englynion, fel y canlyn:—
Mae Rhyl ar lan môr heli,— yn gampus,
Fan gwympawg i'mdrochi;
Ond gwilied neb o'n gwlad ni
Feddwl myn'd yno i foddi.
Mae'n lle glân, diddan, a da,—arbenig
I'r bonedd rodiana;
I'r Rhyl wynebu yr ha',
Mae cantoedd am y cynta'.
Y gwiwlwys deg ewelon,—olynol,
I loni'r trigolion;
A dardd o gyrchfa y dòn,
Drwy y deraidd dre' dirion.
Ceir yno waith cywreinion,—hoff lysoedd
A ph'lasau dillynion;
Ni seiliodd hen oesolion
Un dre' fach harddach na hon.
Yna daeth yr amser apwyntiedig i ben, ac yr oedd yn rhaid i mi fyned yn fy mlaen yn ol fy nghyullan, a chyfansoddais yr hyn a ganlyn wrth ymadael:
O'r Rhyl y difyr hwyliaf—i Gonwy, |