Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

21 Caf wersi'n ddigoegni gant, A hoff urddawl hyfforddiant, Yn y dref hono hefyd-fe allai Caf gyfeillach hyfryd A Beirdd gwâr, breingar en bryd, Mawr rinwedd, am ryw enyd. Trebor Mai fe saif pob sill -o'i fedrus Wiw fydrau cywir-sill; Dyn enwog ydyw'n ynili Gwên y byd pan gano b'ill, A'r addfwyn deg arwydd-fardd-gwir hoffus Yr argraffydd digardd; Sion arfog, hen synwyr-fardd, Gofrestraf, yn buraf bardd. Eang luniwr englynion,-cywreiniaf O'n coronog feirddion; Daw astud fil o dystion, Rydd wiw-rwydd sicrwydd, yw Sion. Galwaf yn Abergele --a Cholwyn, Wrth ddychwelyd adre'; A Bangor fawr, dryst-fawr dre', Lawn mwyniant ar lan Mene. Yn y ddinas dda hono-mae'r Esgob Mawr ei rwysg yn trigo, Olynydd Paul 'ferthol yw fo, A doniawl olynwyr dano. A'r hybarch Ddoctor Robert-fwyneiddiaw! Foneddwr di gwfert; Prif ddiwygiwr, put wr pert, Lyw hirben uwchlaw Herbert. Robyn Wynn bydyn awdwr,geir yno 'N gywreiniawl archenwr; Sighed by Google