1 22 A pherffaith lanwaith luniwr Englyn da ya nglan y dwr. Arosais yn Mangor bedwar diwrnod; ac ar un boreu cef- ais gyfaill caredig i'm cyfarwyddo i fyned i edrych Pont Menai, ac aethym yn galonog ar hyd-ddi dros yr afon fawr i sir Fôn. Yn awr gallaf ddywedyd fy mod wedi sangyd ar gwrr yr ynys hynafiaethol hono; ond uid aethym ond ych- ydig o latheni iddi, dychwelais yn ol yn lled ddiseremoni, heb gyfansoddi cymaint ag un llinell iddi, gan y gwyddwn fod lluaws o englynion campus wedi eu gwneyd yn flaenor- ol. Pan gyrhaeddais Bangor Uchaf, aethym i ymweled å Mrs. Williams, gweddw y diwaddar fardd godidog, Mr. R. Williams (Robert ab Gwilym ddu o Eifion), a chan fy mod i a hithau wedi ein geni a'a magu yn yr un plwyf, cefais dder- byniad croesawgar ganddi, a da genyf allu dywedyd fod yr hen wraig yn edrych yn dda ac yu drefous dros ben, a phob ymddangosiad fod ganddi ddigon o gyfoeth i dreulio gwedd. ill ei hoes yn annibynol fel boneddiges anrhydeddus. Ac wrth ymadael â hi, cyfansoddais yr hyn a ganlyn: Hir iechyd yn Mangor Ucha'-i'r geinwech Wraig anwyl ddi draha; Gweddw Robert, doeth-bert fardd da, Ab Gwilym, por meib Gwalia. O Feirion dirion y daeth,-i Eifion, Dan ofal rhagluniaeth; Dyna'r fan, hoff rian ffraeth, Ddiw'radwydd, ca'dd úr odiaeth. Gwraig ddoethgar, hawddgar, yw hon,-ei harddwch A urddodd fro Eifion; Bangor deg, ar freindeg fron, Yw'r orawr mae'n byw'r awr'on. Yn ei henaint mae'n hynod-gariadus, A gwridog i'w chanfod; Haeddai 'n awr ryglyddfawr glod, Peraidd gan fydrydd barod. Sighted by Google