hir iawn, gan fod genyf lawer o leoedd eto i ymweled a hwynt, i'r dyben o gasglu arian y "Diliau" oedd wedi eu dosbarthu hyd Ogledd a Deheudir Cymru. Ac ar ryw fore ddechreu yr wythnos, cychwynais i'm taith tua Llanegryn a Thywyn Meirionydd. Wedi cyrhaedd o honwyf uwch ben dyffryn prydferth, ac afon Dysyni yn ymarllwys yn araf drwyddo i'r môr, gwelwn graig fawr ardderchog gyferbyn â mi yr ochr draw i'r dyffryn, yr hon a elwir Craig y 'Deryn. Tybiwyf ei bod yn un o'r hynotaf yn Nghymru. Mae hi yn nodedig felly yn misoedd Mai a Mehefin, pan y bydd pob math o adar bron yn dyfod yno i nythu; a bydd y fath drwst gan leisiau yr hen adar a'u cywion nes y bydd preswylwyr yr ardal yn cael merwino eu elastiau wrth wrando eu crochnadau. Eisteddais i lawr, a chyfandoddais yr englynion canlynol iddi allan o law:
Craig wech glaer, yn crogi uwch glyn,—swynol |