Y cr'yr glas gwagfras, a'r gigfran—rheibus,
A'r hebog, a'r 'sguthan,
A'r grawciog afrywiog fran,
A llawer hen ddallhuan.
Y pybyr eryr eirian—a'r cogau
A'r cegog farcutan;
A'r byflwnc adar aflan,
Gryn fil a geir yn y fan.
Eu crog luosog leisiau—mawr hynod
Sy'n merwino clustiau;
Trigolion y bur-lon bau
Grych neidiant gan grochnadau.
Dyma'r fan daw'r mulfranod—i nythu
A nhwythau'r gwylanod;
Deunaw rhyw o dan y rhod
Fynychant i'r fan uchod.
Y dryw bach wrth hir droi'i ben—hoff antur
Aiff yntau i ryw agen,
Lle nytha—nis ofna sen
Y bigog rwth biogen.
Hithau y falch fwyalchen—a'r fronfraith
Fireinfrwd ei chrechwen,
Ddaw yno i byncio uwchben,
Fel adar hyfawl Eden.
Dyna ddarluniad union—o'r gywrain
Ragorol graig dirion;
Gwylied pob bardd o'i galon
Roi geiriau cas i'r graig hon.
|
Wedi gorphen yr englynion, prysurais i lawr i waelod y dyffryn, a chyfeiriais ar hyd heol wr lydan at blas Peniarth, i ymweled a'm cyfaill ffyddlon Mr. Evan Rowlands, Goruchwyliwr W. W. E. Wynne, Ysw., A. S. dros Sir Feirion. Mae Mr. Rowlands yn llenorydd campus, a phleidiwr gwres-