26 og i bob Cymdeithas a fo'n tueddu at lesoldeb a rhyddid gwladol ac eglwysig. Mae ef a'i wraig yn debyg i Abram a Sara, a'r hen batrieirch dwyreiniol gynt, yn lletygar a chroes- awgar i bregethwyr, beirdd, a llenorion, a phawb o nodwedd- iad addas a ddigwyddo alw gydag ef. Cefais yma le tawel, cysurus, a llawer o hyfrydwch yn ei gymdeithas. Deallwyf ei fod yn wr dysgedig. beirniad craffus ar bob peth a gymer dan ei sylw, ac yn llywodraethu ei dy yn dda, ac yn dwyn ei blant i fynu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Boreu dranoeth, wedi torymprydio gyda'r teulu, aethym gyda fy nghyfaill i weled ansawdd y fferm, a gwelwn gan- ddo nifer mawr o ddynion mewn gweirglodd fawr, yn clodd- in ffosydd dyfnion ar ei thraws a'i hyd, ac yn rhoddi pibau pridd wedi eu crasu yn eu gwaelodion, i gario y dwfr allan o honi, i'r dyben o'i sychu a'i diwyllio, a'i gwneyd yn dir da, yn lle ei gadael fel yr oedd, yn debyg i weirglodd fy modryb Cati. Ha! ebai fi wrthyf fy huu, mae Mr. Wynne yn gall- ach na miloedd o berchenogion tiroedd sydd yn Nghymru beth bynag, am ei fod wedi dewis gwladwr deallus yn arol- ygydd ar ei diroedd a'i goedwigoedd, yn lle dewis rhyw Dwrneiod, a chrach-fasnachwyr, na wyddant ddim mwy am ddiwyllio tiroedd a meithrin coedydd, nag a wyddai Twm Fawr a fyddai yn cludo sacheidiau o wlân ar ei gefa yn Nol- gellau gynt. Mae sychu a diwyllio corsydd nid yn unig yn Ilesiant i'r amaethwr, ond hefyd yn iechyd i'r ardaloedd. Tybiwyf mai da fyddai i holl berchenogion tiroedd gy- meryd Mr. Wynne yn batrwn yn hyn, a gwario eu harian i ddiwyllio eu tiroedd, a gwneyd adeiladau gweddus i'w tenantiaid, yn lle cadw gormodedd o gwn hela, a dylyn dawns-chwareufaoedd, a gwleddoedd annghymedrol." A gellir dweyd yn ddiofn, pe yr ymroant i wellhau en tiroedd diffrwyth, y byddai hyny yn galondid ac yn fen- dith iddynt. Brysied y boreu y cymer lyn le. Ond i fod yn fyr. Wedi tremio am gryn amser ar y dynion gweithgar gwnaethym yr englyn canlynol iddynt : Rhai gwiwlwys am wneyd rhigolau-ydych 'Rwy'n adwaen eich campan; Gwnewch fawn-dir a brwyn-dir brau, Ar redeg, yn dir ydau. Dighized by Google