. 28 awr. Wedi ffarwelio âg ef, aethym yn mlaen i Waterloo Place, y Cottage hardd lle y mae y Parch. J. Owen, gwein- idog yr Annibynwyr, yn byw. Tybiwyf fod llawer yn wy- bodus i Mr. Owen bron fyned yn hen lane cyn cael gwraig ond achubodd y blaen cyn myned felly, a phriododd Miss Griffiths, merch G. Griffiths, ysw., Cae'rberllan, Llanmi- hangel-y-penant, Meirion. Gan iddo fod mor gall a chy- meryd gwraig, cyfansoddais y tri englyn hyn iddo ar eu priodas: Rheolaidd belydr haulwen-dywynodd O dan y ffurfafen; Gwiwdod parch rydd godiad pen O newydd i John Owen, Gwraig rasol, siriol, seirian,-a di lyth, O deulu Cae'rberllan; Er fflweb, dedwyddwch diddan, Dda rodd, a gafodd i'w ran. Llwyddiant a ffyniant hoff anwyl-iddynt, A hedd yn eu preswyl; Mewn gwyufyd a hyfryd hwyl, Eirioes hyd ddydd eu harwyl. Hen lane teg, mwyn, di wegi,-a difyr Yw Davies o'r Celmi; Dweyd a wnaf nad adwaen i Ei lawnach o haelioni.
y Ymadewais oddiyno, ac aethym ar hyd y brif-ffordd, tua Thowyn, a throais ar y llaw ddeau i amaethdy mawr a elwir Celmi, preswylfod Mr. John Davies. Hen lane mewn gwir- ionedd yw efe, wedi cyrhaedd gwth o oedran, ac yn cael gair da gan bawb. Tybiwyf na thramgwydda neb o breswylwyr yr ardal pe dywedwn ei fod yn un brif ddynion y wlad o amgylch; yn gymwynasgar a thirion wrth bawb. Wrth ym- adael, gwnaethym yr englyn canlynol iddo: 1 Gadewais fy nghyfaill, ac aethym yn mlaen dros afon 1 Digitized by Google Y