Dysyni i gwrr dyffryndir prydferth Towyn Meirionydd, a chyrhaeddais yn fuan i Bryncrug, a galwais wrth fyned heibio gyda Mr. E. Evans, athraw dysgedig yr ysgol Frutanaidd, yr hwn sydd yn wr ieuanc hynaws, yn haeddu ac yn cael parch gan yr holl ardalwyr, am roddi esampl dda o flaen ei ddysgyblion, heblaw eu dysgu yn y gwahanol gelfyddydau. Gwelwyd hyny yn eglur yn yr arholiad diweddaf arnynt. Y mae ei ddull addfwyn a boneddigaidd yn brawf ei fod yn gymwys iawn i'w swydd. A chan faint ei gymwysderau athrawyddol, cyfansoddais dri englyn iddo.
Aruthrawl gywir athro, yw—Iorwerth,
Ei arwedd sy'n tystio,
Fe rydd ei dalent fawr o
Addurn prydferthawl iddo.
Agwedd ei ysgollheigion,—a'u moesau
Sydd rymusol dystion;
Fod Iorwerth brydferth ger bron,
Yn gawraidd enwog wron.
Dringed Iorwerth yn fardd gwerthfawr,—difefl
Uwch law Dafydd Ionawr;
A gwên addfwyn gynydd-fawr, Y
n glodrydd ben mydrydd mawr.
Wedi hyny ymadewais, ac aethym yn mlaen i'r Dolau Gwyn, i ymweled â Mr. a Mrs. Lewis, a'u mab Gwilym. Arosais yno ddiwrnod a noswaith, yn cael croesaw mawr, a hyfrydwch o weled y melinau, yr ermyg ddyrnu, y meirch, y defaid tewion, a'r gwartheg. Wedi gweled y pethau hyn, diolchais iddynt am eu hynawsedd, ac aethym ar hyd y ffordd tua Thywyn. Pan ddaethym yn agos i'r Hen Dŷ, troais i ymweled â Mr. Humphreys sydd yn byw yno. Cefais lety cysurus a chroesaw ganddo ef a'i wraig, Boreu dranoeth, wedi torymprydio, aethym gydag ef i edrych ansawdd ei dyddyn, a gwelwn ei fod yn deall trefn amaethyddiaeth yn dda. Tybiwyf y gellir dywedyd yn ddibetrus am dano, ei fod ef yn lled agos a dyfod i fynu i'r cymeriad awnw, bod ganddo le i bob peth, a phob peth yn ei le ei