Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hun. Wrth ymadael, gwnaethym ddau englyn iddo ef a'i, deulu fel hyn:

Hugh Humphreys eres wron,—y wiwrwydd
A siriol amaethon,
Gwladwr hawddgar, llachar llon,
A llenydd doeth-gall union.

Yma heb gel y gwelwch,—iawn deulu,
'N dilyn lletygarwch;
Gwraig addien, hoff lawen, fflwch,
Hyddestl, a phlant mewn heddwch,

Wedi diolch iddynt am eu croesawiad, cyfeiriais ar draws y maesydd nes cyrhaedd y Ty Mawr, preswyl y bardd awenyddol Mr. E Evaus (Ieuan Ebrill). Yma y cefais dderbyniad caredig, Y peth cyntaf a dynodd fy sylw yno oedd yr ermyg ddyrnu campus oedd newydd ei gosod i fynu ger y ty Tybiwyf fod yn iawn i mi grybwyll ddarfod iddo ragori ar ei gymydogion yn ngwneuthuriad yr ermyg hon, gan iddo ei gwneyd i'r elfen ddwfr weithredu i'w throi yn lle y meirch, Bellach cant orphwys oddiwrth y llafur hwn. Y mae yma hefyd ermygau corddi; ac y mae hyn yn dangos fod diwygiad mawr yn cymeryd lle yn y dyddiau hyn, ac arwyddion fod teimladau o dosturi yn mynwesau yr amaethwyr tuag at eu morwynion gweithgar Yn awr gallant ar ol rhoi y llaeth yn y fuddau, a gollwng y dwfr ar yr olwyn, eistedd i lawr i orphwys, a chymeryd y Bibl neu lyfr hymnau, neu ryw lyfr buddiol arall, a dysgu allan o honynt, fel y byddont yn debyg o fod yn famau dysgedig erbyn yr elont i'r sefyllfa briodasol, ac yn alluog i ddwyn eu plant i fynu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd o'u mebyd, fel Timotheus gynt, yr hwn a ddysgwyd gan ei nain Loes, a'i fam Eunice, a disgwyliwn fod athrawon ac athrawesau campus yn cael eu magu y dyddiau hyn. Hwyrach nad anfuddiol fyddai crybwyll yma cyn gorphen y frawddeg hon, fod merch Mr. a Mrs. Evans, sef priod hynaws Cadben G. Dedwydd, o'r Abermaw, yn agos i'w thymp ar ei chyntafanedig pryd hyny, a dymunais gael clywed pan gymerai hyny le. Cefais fy nghais, ac enw y