Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gwilym o Fôn sy'n athronydd—doethaidd,
A dethawl fasnachydd,
Cyn pen hir bernir y bydd,
Yn hyfawl eon ofydd.

Un mawr yn Nhywyn Meirion,—yw Gwilym,
Fel y gwelir weithion;
Dir nad oes, eirioes wron,
Mwy pur na Gwilym ap Io'n.

Aethym oddiyno at Mr. Robert Jones (Robin Awst), y fferyllydd; gwr darllengar a chroesawus ydyw, ac y mae wedi dangos ei gallineb drwy gymeryd gwraig, a hono fel gwin wydden ffrwythlawn. "Gwych, Mr. Jones," ebai fi, "chwi a wnaethoch yn ddoeth briodi cyn myned yn hen lanc," a gwaaethym y ddau englyn hyn iddo ef a'i wraig wrth ymadael a hwynt:

Robin Awst arab onestydd,—gwiwrwydd
Sy'n gywrain fferyllydd,
Mawr enw yn Meirionydd,
Heb dawl sy iddo bob dydd.

Cofier fod ei wraig hefyd,—dda'i 'madrodd
Yn medru'r gelfyddyd;
Myn hon y gwaelion i gyd,
O fachau hen afiechyd.

Oddiyno acthym at y Meddyg Philips a'i deulu. Yno y lletya y Parch. Isaac Thomas, gweinidog yr Annibynwyr, gwr ieuanc gobeithiol, a phregethwr doniol ydyw. Y mae yn debyg o fyned ar hyd llwybr yr hen lanciau, a rhoddais gynghor pwyllog iddo yntau hefyd i ymorol am gydmares bywyd yn ddioedi bellach—

Sef gwraig rasol, dduwiol dda,
Siriol, mor ddoeth a Sara;
Un hylaw, ddistaw. ddwysdeg,
Heb grychni, brychni, na breg;
Un hynaws, nid mewn henoed,
Gynil, iach, un ganol oed;
Un barchus, hoenus, heini',
Grefyddol, o freiniol fri;