Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn Minffordd heb ddim anffawd,—ces araul
Le cysurus hynawd;
Bwyd maethlon, a phurion ffawd,
A'm dewis o bum' diawd,

Yna aethym gyda Mr. Wm. Owen, goruchwyliwr Owen Owens, ysw., i Ddolffanog, lle y cefais dderbyniad crossawgar hyd y boreu Diolchais iddynt, ac aethym drwy Goris ar hyd y rhew a'r eira mawr, a chyrhaeddais Aberllyfeni, ac ymwelais à Mr, R. Hughes, goruchwyliwr y cloddfeydd llechi sydd yno, i ddiolch iddo am ei haelfrydedd yn dewis ac yn cymwyso llech ardderchog i'w rhoddi yn gofgolofn i Ieuan Gwynedd yn addoldy y Brithdir, gerllaw Dolgellau, lle y gosodwyd hi i fynu yn drefnus ar y cwrr gogleddol yn y capel, a hyderir y bydd ar gael yn mhen canrifau eto. Cyfansoddais yr englynion a ganlyn iddo am ei hynawsedd:

Robert Hughes arabwr têg—a moesawl,
Gymwysodd lêch gareg,
Un liwgar, freingar ddi frêg,
A gweddus i ei goddeg.

Lluniwyd hi mewn dull iawn wedd.—yn golofn
Gu wiwlwys ddisgleirwedd,
Er coffhad rhawg o hoff wedd,
Ein gwanar Ieuan Gwynedd.

Tawel gwnaeth Robert Owen,—wych biliwr,
Ei chaboli'n drylen;
A thorodd bob llythyren
Yn fflur eiriau pur i'r pen.
 
Y rhadawl gerfiwr hydyn,—a'i gweithiodd
Hi'n goethaidd a dillyn;
Chwi gewch glod hynod am hyn,
A dirfawr barch diderfyn.

Gwedi hyny ffarweliais àg ef, a dychwelais yn ol i Goris, ac aethym i letya i westy mawr y Braich Coch,