Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi hyny penderfynais gymeryd taith i Lanbrynmair, gan na fum yno erioed; a cheisiais ddynwared pryddestwyr yr oes hon wrth ysgrifenu hanes fy nhaith, gan ddechreu fel hyn:

Ar ddiwrnod oer fis Ionawr, heb un braw,
I'ın taith yr eis o dref Machynlleth draw;
Yn mlaen a fi ar nen y cerbyd mawr,
Hyd at Dy’nrhos, heb feddwl neidio i lawr;
Pan welais groesffordd ar y ddehau law,
A hono'n lân, heb arni laid na baw,
Crochfloeddio wnes, fel dyn mewn pryder dwys,
Gan fod y peth i mi o gymaint pwys, —
"Gerbydwr mwyn, atebwch fi mewn gair,
Ai hon, yn wir, yw'r ffordd i Lanbrynmair?"
Atebai'r gwr yn siriol ac yn llon,
"Y briffordd iawn i Lanbrynmair yw hon."
I lawr ar frwst y daethym yn ddifroch,
A ffwrdd a fi trwy bentre'r "Comins Coch,"
Ac yn fy mlaen rhwng gelltydd llawn o goed,
Na welswn i yr un o rhei'ny erioed.
Cyfarfum ddyn, a holais hwnw toc,
"Pa faint o ffordd sydd etto i westy’r Cock ?"
"O ewch yn mlaen, na chym’rwch ronyn braw,
Mae'r gwesty mawr yn agos iawn gerllaw;"
Ac felly 'roedd, a dweyd y gwir i chwi,
Rhoes geiriau'r gwr galondid mawr i mi,
A chyrhaedd wnes, cyn pen yr hanner awr
Brydnawn y dydd, i westy'r Ceiliog mawr .

Bellach, gwell i mi geisio dynwared rhyddieithwyr, heb na sain nac odl, nac un math o gynghanedd. Pan ddaeth ym i'r gwesty, troais i ystafell eang ar y dde, a gofynais am dê, a chefais beth bron ar drawiad llygad . Gwyddwn fy mod yn hollawl ddyeithr i bawb o'r teulu: ond, gan wired a'r pader, dyma sî allan mai " Meurig Ebrill" ydoedd y gwr dyeithr oedd yn yr ystafell . Nis gwn pa fodd y daethant i wybod oni ddarfu iddynt arogli y Diliau oedd genyf mewn ysgrepan gerllaw . Ond, i fod yn fyr, ar ol i mi yfed tê, aethym i edrych ansawdd y tŷ, yr ystablau, y cerbyd-tai, y