meirch, a threfn y gweision a'r morwynion. Gwelais fod pawb oll yn cyflawni eu swyddi yn anrhydeddus wrth orchymyn eu meistr a'u meistres, a hyny gyda'r ufydd— dod a'r parodrwydd mwyaf. Eisteddais i lawr yn yr ystafell, a neidiodd yr awen i'w helfen ei hun, a chyfansoddais yr englynion canlynol yn ddioedi:—
Hen breswyl anwyl enwog—a gwastad,
Yw gwesty y Ceiliog;
Caiff Bardd dyddan, glân ei glog,
Groesaw o flaen tân gwresog.
Yn y Cock heb un nacâd,—caredig
Ceir odiaeth groesawiad,
Gwledd feithrinawl, fuddiawl, fâd,
A gwin, yn ddioganiad,
Gwr yw Llwyd hawddgar a llon—diwgus
Mae degau o dystion;
A'i dyner briod union,
Gwraig landeg, hardd-deg yw hon.
Plant iachus hoenus hynod—mawr rinwedd,
A morwynion gwiwglod;
A gweision wedi'u gosod
I bob swydd yn rhwyld dan rhod.
Meirch tewion, loywon liwiau,—a chywrain
Wych eirioes gerbydau;
A gyrwyr o'r rhai gorau—
Nid meddwon pengeimion gau.
Cig yn fwyd mewn cegin fawr—a siwgwr,
A phob seigiau gwerthfawr;
Dewisol dŷ dieisawr,
I bawb oll, yw hwn bob awr.
Yna cefais gymhelliad taer gan Mr. a Mrs. Lloyd i aros yno y noson hòno a thranoeth, ac addewid y cawn lety a bwyd yn rhad gyda rhwyddineb. Yna atebais fy mod wedi