Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

arfaethu myned i'r Diosg i ymweled â'r hen Griffith Risiart o'r Ddol-gam, ac yn benddifaddau i ymweled â'r Gwir Barchedig Samuel Roberts, un o brif wroniaid yr oes fel pregethwr, bardd, a rhyddieithwr. Yna diolchais iddynt am eu caredigrwydd, a chychwynais tua'r Diosg: cefais gyfaill i'm hyfforddi nes daethym ar gyfer y tŷ, a dangosodd i mi bontbren yn croesi yr afon. Erbyn mynel ati, yr oedd mor llithrig a'r gwydr gan rew ac eira: meddyliais yn y fan am y diwdddar Richard Jones, Llwyngwril, yr aethai ef ddeng milldir o gwmpas yn hytrach na myned ar hyd-ddi: pa fodd bynag aethym i ar hyd-ddi yn ddiogel trwy ymaflyd yn y ganllaw, a cherddais hyd heol union nes cyrhaedd at borth y tŷ. Curais y ddor, a phwy debygwch chwi a ddaeth i agor ond yr hen Samuel ei hunan (nid rhyw "ddrychiolaeth" fel hwnw a ddaeth at ddewines Endor). Wedi cyfarch gwell yr i'n gilydd, cefais wahoddiad at y tân, lle yr oedd yr holl deulu wedi ymgrynhoi yn nghyd gan erwinder oerfel. Sylwais eu bod yn ateb i'r darluniad a roddir o rai yn y sefyllfa hono, sef tŷ, a thân, a theulu dedwydd. Dyna yr olwg a gefais arnynt. Yn uniongyrchol dechreuasom ymddyddan am y naill beth a'r llall, a'r cwbl eto mewn rhyddiaith. Yn mhen ychydig meddyliais y dylaswn gyfansoddi rhai llinellau barddonol; a phenderfynais na thalai i mi gymeryd y mesurau caethion, gan fod fy nghoelbren wedi disgyn yn mhlith pleidwyr y mesurau rhyddion. Bum enyd cyn penderfynu pa fesur rhydd a gymerwn i gyfansoddi ychydig bennillion arno, ond daethym i benderfyniad o'r diwedd mai "Bryniau'r Werddon" a gymerwn. Canodd yr hen Feirdd lawer arno yn gampus.

'Rwy'n gweled teulu selog, mawreddog, ger fy mron,
I gyd yn rhai meddylgar, myfyrgar, llachar. llon;
A "Gruffydd Risiart" beunydd sy'n llywydd yn y lle,
Hen athro cadarn, treiddgar, dyfeisgar, ydyw fe.

Mae ganddynt drefn reolaidd a boneddigaidd iawn,
I gael goleuo'u gilydd yn llwyr ar gynydd llawn;
Gofynion ac atebion yn gyson, heb un gwall,
Geir yno mewn gwirionedd, a gweddus agwedd gall.