Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Saith o Feirch, hafeirch, hyfion,—yn tynu
Naw tunnell mor rhwyddion;
A chymaru ŷch mawrion,
Dilesg ffawd, i lusgo ffon.

Meirch heini, mawrwych hynod—o gedyrn
Y'nt i gyd, hawdd canfod;
Rhai troediawg, rhythrawg dan rhôd,
Cymalawg fel Camelod.

Tynent mor chwyrn nes tanio,—y cerrig
O'u cyrau wrth brancio,
Tra hir y cedwir mewn co,'
Eu gorwych nerth di guro.

Gyrydd campus rhagorol,—hŷ lywiwr,
Yw Hugh Lewis nerthol;
Nid rhyw feddwyn, ffalswyn ffôl,
A chroesaidd ddyn echrysol.

Aethom yn mlaen felly ar ffrwst heibio i Ddrws-y-nant, ac i ben y Garneddwen, cyn i'r dydd wawrio arnom, a chyrhaeddasom yn fuan i Lanuwchllyn; erbyn hyny yr oedd yn bryd i'r meirch gael gorphwys ychydig, ac i gael dognau o borthiant hefyd, ac o ganlyniad, disgynais yno o'r bedrolfen, a cherddais ar fy nhraed i'r Bala, a throsis i mewn i Westy y Bwl; cefais yno groesawiad caredig gan Mrs. Davies, y wraig barchus sydd yn cadw y Gwesty, gyda ei theulu, ac mae yn debyg mai dyma y pryd y gwnaethym yr englynion sydd yn argraffedig yn "Niliau Meirion", yr ail ran, tu dalen 32. Llyma hwynt etto i'w gweled.

"Nid lle dwl yw Bwl y Bala—menyn
Geir mewn mynud yma,
A bir, a chaws, a bara,
Llaeth a dwr, lle eitha' da.

Gwraig ddestlus, hwylus, hoywlon,—am orchwyl,
A merched cariadlon;
A thêg yw coffa'r waith hon,
Am rinwedd y morwynion.