Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac mewn trefn, arweiniwyd fi i yatafell lle yr oedd gwely o fâ-blu, a dillad dau wely arno, i'm cadw rhag yr oerfel. Bore dranoeth (y Sabboth) wedi i ni dorymprydio, aethom gyda'r hen Samuel i'r Hen Gapel i wrando arno yo preg— ethu, ac yn yr hwyr i Talerddig, ac yn ol i'r Diosg at y teulu. Yna aethom i orphwys hyd y bore. Cyfodasom yn brydlon; ac wedi i ni dorymprydio, dywedais fy mod ar gychwyn i'm taith, er fod y teulu yn crefu yn daer arnaf aros yno ddeuddydd yn hwy; ond myned oedd raid, a dywedais fel hyn,—

Ffarwel gyfeillion oll yn awr
Trwy'r annedd fawr ar unwaith,
'Rwy'n disgwyl cael ar fyr heb roch
Dychwelyd atoch eilwaith.

Yna brysiais tua'r Wynnstay Arms Hotel, i gyfarfod y llythyr-gerbyd, a chefais drwydded gan Mr. Lloyd i fyned ar ei nen i Fachynlleth, trwy'r rhew a'r eira mawr. Cyrhaeddasom yno mewn yspaid byr. Aethym i dŷ Mr. H. M. Pugh, fferyllydd, lle cefais dderbyniad croesawgar fel arferol. Rwyf yn awr yn cyflwyno fy niolchgarwch gwresocaf iddo ef a Mrs. Pugh, ei briod hawddgar ac anrhydeddus.

Terfynaf yn bresenol, gan ddymuno daioni i bawb, ac yn neillduol i'r rhai sydd a'u drysau yn agored i groesawu yr hen Feurig ar ei deithiau gyda "Diliau Meirion." Pan gyrhaeddais adref o'r daith hon, cyfansoddais y penillion dylynol, ar yr hen fesur "Bryniau'r Werddon."

Mae arnaf ddirfawr rwymau diamau nos a dydd,
I ganmol fy Nghreawdwr a'm pen Rheolwr rhydd;
Yr hwn o'i fawr drugaredd a'i hir amynedd maith,
Roes i mi nerth ac iechyd, yn byfryd ar fy nhaith.

Er bod i mi elynion, rhai chwerwon, creulon, croes,
Yn chwalu ac yn chwilio am le i ddifuddio f'oes;
Mae genyf hefyd ffyddlon gyfeillion mwynion mad,
Rhagorol wŷr a garant fy llwyddiant a'm gwellad.