A ¡ ✔ 43 Gorthrechawl, dreisiawl drawsion,-weis bawach Na'r Sebeaid creulon; Dig'wilydd daeog alon,-llawn bariaeth, Llu o rywogaeth waetha'r lloerigion. Gwallus gynddeiriog wylliaid,-au hantur Tu hwnt i'r Caldeaid; Lladron anferth, certh eu caid, Mwy denawl na'r Midianiaid A ddaethant mal goddeithiaid- A ffyrnig wallgofiaid; I'r wlad hon yn hyfion haid, I reibio'n waeth na 'Rabiaid. -uffernawl, Mintai o ddrygiawg heriawg ddybirod, Llu anbygar run fath a llwynogod: Milciniaid rhuthrawg, lleuawg, fel ilewod; Cenawon-amryw megys cwn Nimrod; Gweis diafol gas eu defod,-melldigawl, A chroes feginawl, echrys fwgauod. Gwarthus, ryfygus fagad-o frydiawl Hy' fradwyr didoriad; Câd farus, a'u cyd-fwriad Dedd tyru i lethu'r wlad. Eu prif wersyll erchryll hwy, Meddyot, oedd cwmwd Mawddwy; Fel gwaed-gwn a gwyll-gwn gau, Llechasant mcwn llochesau. Addug chwiw ladron oeddynt, Tri gwaeth na gwŷr Troia gynt; Crwydriaid na bu gwylliaid gwaeth, Llin wiberod, llawn bariaeth. Dyliaid o amryw dalaeth, Fel rhyw hid ddiriaid a ddaeth Yn fyddin fawr anfoddawl, Dan faner hell, dywell, diawl; A rhyw flaidd, drymaidd, dremynt,-mor giaidd A llew diornaidd, yn llyw du arnynt. Digitized by Google