Tudalen:Teithiau a Helyntion Meurig Ebrill.pdf/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rhai eirioes, o'r rhyw orau,—disoriant
A siriol wynebau;
Haeddant dan rhod, glod, yn glau,
Gwiwrwydd, mewn mwyndeg eiriau."

Cychwynasom o'r Bala yn brydlon, a chyrhaeddason i Gorwen erbyn tywell nos, pan y daeth Mr. William Pugh, perchenog y meirch a'r bedrolfen fawr, o hyd i ni. Buom yn gorphwys yno enyd yn y Gwesty, a'r meirch yn yr ystablau, ond cychwyn oedd raid wedi hyny ganol nos, a chyrhaeddasom i Langollen cyn dydd; dadfachiwyd y meirch a rhoddwyd hwynt yn Ystablau y "Cambrian," (Gwesty newydd Mr. William Jones,) ac aethom ninau i'r Gwesty i gael lluniaeth, a gorphwyso hofyd nes gwawria y dydd. Cawsom groesaw mawr yno, gan fod Mr. a Mrs. Jones yn enedigion o Ddolgellau. Cyfansoddais ddeuddeg englyn i'r "Cambrian", gwel "Diliau Meirion", ail ran, tudalen 37, rhoddaf dri o honynt ar lawr yma:—

"Cambrian têr, porth y Berwyn,—ei gelwir.
A golwg pur ddillyn
Sydd arno, pan delo dyn
I'w neuadd, tyr ei newyn.

Maethlon wresogion seigiau,—yn helaeth
I iawn hilio'r byrddau,
O waith cogydd, clodrydd clau,
Ddwys gludir yn ddysgleidiau.

Gleiniog welŷau glanwaith,—i orwedd
Ga arwyr wrth ymdaith;
Ni wel neb wyneb unwaith,
Gwelw llwyd, drwy gael gwely llaith."

Ond pan wawriodd y dydd, bachwyd y meirch wrth bedrolfen drachefn, a chychwynasom tua Rhiwfabon, gan fod yn rhaid bod yno erbyn unarddeg o'r gloch y boreu hwnw; aethom ran o'r ffordd yn y bedrolfen, ond dymunai. ar Mr. Pugh gael cenad i ddysgyn, a cherdded ar fy nrhaed. gan fy mod yn meddwl erbyn hyn y cawn weled cryn lawer o ryfeddodau yn y parthau hyny o'r wlad, lle mae cymaint