Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Bywyd.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bedd yr Iesu.

DAETH bore'r "trydydd dydd," a gwridai'r wawr wen dlôs,
Mewn gwisgoedd porphor, cain, drwy leni trwch y nos,
Ond cyn i haul y cread gyfodi i'w freiniol sedd,
Haul claer Cyfiawnder godai o gôl y tywell fedd.
Uwchben y fan gorweddai Gwaredwr mawr y byd,
Y gwragedd tyner safent mewn agwedd ddistaw, fud;
Yr heilltion ddagrau dreiglent yn gyflym lawr eu grudd,
Fynegent iaith y teimlad, a chwyddai bronau prudd.

I'r llanerch gysegredig, fy awen, hed ar hynt,
Disgrifia yr olygfa a gadd y gwragedd gynt;
Y pwysfawr faen dreiglesid i ffwrdd oddiar y bedd,
Ac arno safai angel—fel mellten oedd ei wedd;
Mae'r llian main a'r napcyn yn hollol yn eu lle,
Ond sanctaidd gorff yr Iesu,—pa le dodasid E'?
Yr angel gwyn atebai, mewn geiriau llawn o hedd,—
Yr Arglwydd a gyfododd, 'does yma ond ei fedd.

Nis gallai teyrn marwolaeth ddim ei gaethiwo Ef,
Drwy ymerodraeth Angau gwnaeth brif-ffordd fry i'r nef:
Pan gauai dorau'r beddrod ar Geidwad euog ddyn,
Agoriad porth marwolaeth orweddai wrth ei glun: