Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Bywyd.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ambell fardd mawr Cymreig nas gall y meddwl ei ddilyn bob awr o'r dydd. Ambell fin nos, wedi ymflino gyda thrafferthion bywyd, yn lluddedig a diynni, y mae y meddwl yn gofyn am gân. Dyna ei hawr hi. Y mae sain yr organ yn rhy gryf a llethol yn yr awr honno,—estynwch y delyn, moeswch y gân,—yn ngeiriau Longfellow,—

Darllenwch ryw brydydd syml
A'i gân yn ffrydio o'i fron,
Fel cawod o gwmwl hafddydd,
Neu ddeigryn o lygad llon.

Mae cân fel yna yn lleddfu
Ergydion poen a chûr,
Ac yn dyfod fel y fendith
Sydd yn dilyn gweddi bur.

Mewn gobaith fod ambell i gân fel yna yn y llyfr hwn.

Y gorphwys,
Eich gwasanaethwr,
YR AWDWR.

Awst, 1904.