Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Bywyd.djvu/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Badwr.

HOI! Ohoi! medd y badwr llon,
Tra dawnsia'i gwch ar y nwyfus don,
Dedwyddach yw yn ei siaced lâs
Na'r un boneddwr yn ei blâs:
A phle ceir brenhin mewn un wlad
Mor iach ei fron â theyrn y bâd?

Ohoi! Ohoi! medd y badwr llon
Tra dawnsia'i gwch ar y nwyfus don.

Ar nawn fo deg, a'r môr yn llyfn
Mor ddifyr ä dros y dyfroedd dyfn:
Mae'n sychu'r chwys ar ei dalcen hardd
Gyda chefn ei law, ac ysgafn chwardd:
Ni phrisia ddim am segur saig
Diorphwys yw fel y don a'r aig.

Ohoi! Ohoi! medd y badwr llon
Tra dawnsia'i gwch ar y nwyfus don.

Pan rua'r môr, a phan wibia'r mellt,
A'i ysgafn fâd bron mynd yn ddellt,―
Nis gall y storm lwfrhau ei fryd,
Ei obaith wêl yr hafan glyd,―
A miwsig yn ei glustiau ef
Yw brochus raith y dymhestl gref.

Ohoi! Ohoi! medd y badwr llon
Tra dawnsia'i gwch ar y nwyfus don.