Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Golygfa.
CAREG lwyd, fwsoglyd, ger y gloew li,
Hafddydd mwyn a hyfryd,—dyna'm gwynfyd i;
Gwrando dwndwr afon yn y cerig mân,
Ddeffry yn fy nghalon felus, felus gân.
Anwyl, anwyl Gymru, bendigedig yw
Dy ddyffrynoedd tawel, lle mae hedd yn byw,
Caraf weld cysgodau'r cwmwl ar y ddol;
Caraf ddilyn tonnau yr awel ar eu hol!
Awn yn nwyfus.
AWN yn nwyfus i'r mynyddau,
Dringwn lethrau'r gwyrddlas fryn,
Yfwn awel bur y moelydd,
Lle y crwydra'r cwmwl gwyn:
Awn lle dawnsia y cornentydd,
Awn lle gwena blodau'r maes,
Awn lle cân y gog a'r hedydd
Fawl yr haf mewn awyr las!