Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Bywyd.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Emyn y Cread.
(Victor Hugo).

AR nos serenog, ger y don,
Fy hun y safwn i,
Digwmwl oedd y nefoedd,
Heb hwylbren ar y lli':
Fy llygaid draw a dremient
Tu hwnt i orwel byd;
Tra'r gwyntoedd oll a'r moroedd
Ac anian fawr yn nghyd,
Fel pe yn cêl-ymofyn,
Mewn murmur cymysg lef,—
Gwanegau maith yr eigion,
Ac eirias danau'r nef.

A'r ser, aneirif luoedd,
Y ser o euraidd liw,—
Mewn uchel ac mewn isel lef
Cynghanedd filwedd fyw,—
A ddwedent tra yn plygu
Pob coron aur i lawr,
A hwythau'r glasliw donnau
Herfeiddiol, gwyllt eu gwawr,
Atebent, tra'n penlinio
Ar draethau maith y môr,—
Yr Arglwydd sy'n teyrnasu,
Yr Arglwydd, gadarn Ior!