Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telyn Bywyd.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Haf-nos Oleu.

Y NOS dawel, fwyn,
'Rwy'n caru dy wedd,
Wyt orlawn o swyn,
Mor felus dy hedd!

Dystawrwydd a ddaeth
I'w orsedd yn awr,
Diflanu a wnaeth
Holl ddwndwr y llawr.

Y meillion a'r rhos
Pan gilio yr haul,
A gysgant drwy'r nos
Yn mentyll eu dail.

Yn wylaidd y daw.
Yr awel fain, fwyn,
A thery ei llaw
Ar delyn y llwyn.

Y fyw, loew nant,
Arianaidd ei llun,
Yn ngwaelod y pant
A sieryd drwy'i hun!

Y môr yr awr hon
Llonyddu a wnaeth,
A hepian wna'r don
Ar fynwes y traeth.