Y Faner Wen.
DAW gwenau mwyn y gwanwyn,
Ar ol y gauaf prudd,
Ac wedi'r nos ystormus daw
Yn dirion, doriad dydd:
Ar ol y tonnau geirwon,
Daw'r hafan deg ei gwawr,
A boreu'r fuddugoliaeth ddaw
Ar ol y frwydr fawr:
Am hyny, ymwrolwn
Dan faner dirwest fâd,
Yn ngrym arfogaeth loew'r gwir,
Yn enw Duw a'n gwlad:
Os cwympodd y gwroniaid,
Ni phallodd nerth eu ffydd,
A'r cof am danynt erys byth
Yn nghalon Cymru Fydd.
O lawer anedd unig,
Fu'n gartref dedwydd gynt,
Ochenaid drom o fynwes siom
A grwydra gyda'r gwynt:
Mae'r awel leddf a sua
Dros fedd y meddwyn tlawd
Yn dweyd yn brudd, bob nos a dydd,
Fod hwnw ini'n frawd:
Am hyny, cydymunwn
Yn erbyn Bacchus fawr,
A mynwn gael ei gadarn gaer,
A'i uchel rwysg i lawr:
Yn enw gwyn dyngarwch,
Yn ysbrydoliaeth ffydd,
Ymlidiwn elyn dyn a Duw,
A dirwest gario'r dydd.