Prawfddarllenwyd y dudalen hon
IV.
PAN AF I'R BEDD F' ANWYLYD.
(C. G. ROSSETTI.)
Pan af i'r bedd, f' anwylyd,
Na chân im’ alargerdd,
Na phlan rosynnau uwch fy llwch
Na chypreswydden werdd;
Ond tyfed glaswellt trosof
Yn ir gan wlaw a gwlith;
Os mynni gelli 'nghofio,
Neu'm llwyr anghofio byth.
Ni welaf mo'r cysgodion,
Ni theimlaf oerni'r gwlaw,
Ni chlywaf gathlau'r eos ddwys,
Acenion poen a braw;
Heb wawr, heb nos, trwy'r gwyllnos
Breuddwydio'n hir a gaf,
Nis gwn pa un ai'th gofio
Ai'th lwyr anghofio wnaf.