Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Oera gwres yr haul ysblennydd,
Neidia'r Wyddfa i fôr Iwerydd,
Cyn y peidia 'nghalon garu
Hên alawon mwynion Cymru.
II.
ENETH WEN FEL MEILLION DOL.
Eneth wen fel meillion dôl,
Dyro 'nghalon imi'n ôl,
Neu bydd foddlon
I dy galon
Fod yn eiddo'th brydydd ffôl.
Nefol dlysni'th ieuanc rudd
Gân fy awen nos a dydd.
Lili wen wyt, eneth hardd,
Yn dy lygaid swyn a chwardd,—
Llygaid gleision.
Ddwêd gyfrinion
Serch dy galon wrth dy fardd.
Cofia fel y rhodiem gynt,
Gyda'n pennau yn y gwynt,