Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Gwelais wynder yn ei gwisgoedd,
Clywais ganu yn ei llef;
Gwelais ddyddiau gwyn yng nghusan
Lleuad Arfon ar y lli,
Gwelais yno gysgod gwannaidd
Cusan cariad Men i mi.
Gwenodd llawer lleuad newydd
Ar y Fenai yn ei thro;
Curodd llawer gwendon lwythog
Gerddi'r dyfnder ar y gro;
Dywed imi, Fen anwylaf,
Ydyw'r goleu fyth yr un,
A'r dyfodol pell yn gwenu
Llwydd i gariad mab a mun?
IV.
DDOE A HEDDYW.
Gyda Men yng ngwlad barddoniaeth
Noson leuad oleu dlos;
Rhodio'n wylaidd ym mharadwys
Serch y nos.
Adrodd hanes cariad cyntaf,-
Siom, ochenaid, cario'r groes;