Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telynegion (Silyn).djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwerdd fu hon fel ei chyfoedion
Yn y gwanwyn llon;
Ymbriodi gydag angau
Ddaeth a gwrid i hon.

Gwael a dirmygedig ydyw
Bywyd llawer un,
Ond rhydd angau anfarwoldeb
Ar ei olaf hun.

P'run yw'r tlysaf,- priod liwiau
Bywyd ar ei sedd,
Ynte'r arlliw wrid brydfertha
Welwder y bedd?


XI.
Y BLODAU'N LLATEION.

Pe gwyddai'r blodau hanner
Fy hiraeth am fy merch,
Hwy wylent ddagrau tyner
O gydymdeimlad serch.

Cusanu ac anwylo'r
Llateion wnes bob un,
A'u neges ydyw cludo'r
Cusanau i fy mun.