Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telynegion (Silyn).djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Haul y nef sydd wedi cilio,
Ac anfonodd wrth noswylio
Wên tangnefedd dros flinedig fyd;
Ei belydr olaf dros yr eigion
Oedd lwybr aur i wlad breuddwydion,―
Cyfrin fro breuddwydion hud.

Pan mae anian oll yn cysgu
Pam y mynni di derfysgu
Ac ewynnu'n greulon yn y gro?
Ust, distawa'th dôn anynnad,
Rhag cynhyrfu hun fy nghariad,—
Hun y decaf yn y fro.

Pâr i Olwen landeg huno'n
Suol siffrwd dy furmuron,—
Dwsmel seiniau pêr y tonnog gôr;
Dyro 'nghymlith a'i breuddwydion
Serch ganiadau'r môr forwynion,—
Swynol fiwsig dwfn y môr.

Boed i'w chalon bur atgofio
Dyddiau dedwydd aethant heibio
Pan y crwydrem gyda glannau'r llyn,
Pan eisteddem yn y cyfnos
I edmygu cainc yr eos,
Dan y dail ar ael y bryn.