Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telynegion (Silyn).djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXIII.
YN OL AT NATUR.

Bore'r deffro,—ni fu gwanwyn
Yn ei wyrdd erioed mor hardd;
Ond mae rhew caredig gaeaf
Wedi gwywo serch y bardd.

Bore'r deffro,—mae'r ysbrydion
Fu yn gwylio tros fy hun
Wedi hedeg; minnau'n ddistaw,
Am mai breuddwyd oedd y fun.

Bore'r—deffro, miwsig newydd
Sydd yn seinio yn fy nghlyw;
Deffro wnes i wrando eto
Nodau melus cerddi Duw.

Wedi caru merch y ddaear,
Hiraeth i fy nghalon ddaeth
Am y cariad deimlais unwaith
Cyn i 'nghalon fynd yn gaeth.

Cerais natur,—ymfoddlonais
Ym mreuddwydiol fêl ei mhin;
Ond gwrthgiliais, fel fy mrodyr,
Gwelais nef yng nglendid bun.