Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Yng nghwmni merch y brenin
Yr aeth o'r tywyll lyn,
A minnau heb fy Arthur
Yn wylo'n syn.
XXVII.
BREUDDWYD.
Mae'r ysbryd yn brudd ac yn unig
Yn nwndwr aflafar y byd,
Yn gwrando am ddofn gyfrinach
Y pell a'r tragwyddol o hyd;
Unigrwydd anghysbell ynysig
Rhwng tonnau anhysbys aig,
Heb lais ond dolef y dyfnfor
Ym myddar glust y graig.
Breuddwydiodd yr ysbryd fod ystyr
I furmur diddiwedd y don,
Ei bod yn aflonydd wrth fethu
Mynegi cyfrinach ei bron;
A'i bod, wedi blino yn crwydro
Dros wyneb yr eigion pell,
Yn brysio i dorri ei chalon
Ar greigiau ei garchar gell.