Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telynegion (Silyn).djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXXVI.
BLWYDDYN SERCH.

Glas y gwanwyn, cochni hydref,
Llymder gaeaf du,
Ddilynasant ôl eu gilydd
Er pan gwrddais di.

Gwelais di ar lawnt y gwanwyn
Pan oedd serch yn fach,
Gwelais di ar ddydd hirfelyn
Glân Mehefin iach.

Pan oedd hydref wedi cuddio'r
Coed dan wridog len,
Wyt ti'n cofio oedfa'r afon
Is y manwydd, Men?

Gwelsom loer y gaea'n gwenu
Cariad ar y lli;
Yr oedd goleu yn dy lygaid
Na ddeallwn i.

Gaiff y gwanwyn ganu eto
Fore gerdd yr ardd,
Gaiff yr hydref wrido'r manwydd,
Tithau gyda'th fardd?