Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telynegion (Silyn).djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXXIX.
SIOM.

Dail meirwon yr hydref ddisgynnent
Yn grin a gwywedig i'r lli,
A nofient yn araf a phruddaidd
Heb atgof am wanwyn eu bri.

Meddyliais am lu o obeithion,
Fu unwaith yn flodau i gyd,
Wywasant yn henaint y flwyddyn,
A'r llwydrew yn oer ar eu pryd.

Fe'u dygwyd yn dyrfa, un diwrnod,
Yn farw i'r cefnfor di-lan,
A murmur wnai llif ebargofiant
Yn bruddaidd o amgylch y fan.