Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telynegion (Silyn).djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XLI.
GAIR O BELL.

Gwenu mae y lloer yn ddisglair
Heno uwch fy mhen;
Wyt ti'n cofio'r lloer yn gwenu
Noson arall, Men?

Gwena heno ar fryniau Arfon,
Ar dy gartre di,
Gwen yw hi, a gwen wyt tithau,
Men, fy mywyd i.

Er im' weled tlysni'r estron
Oddicartre 'mhell,
Gweled 'rwyf fod heirdd rianedd
Bryniau Cymru'n well.

Yn Eryri hên mae 'nghalon
Heno gyda thi;
Wyt ti'n meddwl, fun fy enaid,
Beth am danaf fi?

Cofio'th wên a gwawr dy lygaid,―
Hiraeth eto ddaw
Am dy gwmni, Fen anwylaf,
Ar Eryri draw.