Prawfddarllenwyd y dudalen hon
'Rwy'n canu am na raid im'
Ond mynd a dod.
XLIII.
CARIADON.
A mi'n mordwyo yn y nos
Arnaf gwenodd seren dlos;
Cerais innau'r seren wen
Wenai'n ffyddlon uwch fy mhen.
Ond gwnaeth caru Morfudd fwyn
Im' anghofio'r seren swyn;
A threuliasom ddyddiau braf
Yn ein bad ar donnau'r haf.
Wedyn daeth y gaeaf du,
Troi ei chefn wnaeth Morfudd gu,
Trist ac unig oeddwn i,
Ond fy ngadael fynnodd hi.
Heno rhua'r dymestl hyf,
A hyrddio 'mad mae'r corwynt cryf,
Ond rhwng y cymyl ddua'r nen
Ffyddlonaf un yw'm seren wen.