Prawfddarllenwyd y dudalen hon
A gofyn wnes i'r ewyn gwyn,
Gofleidid gan ystormydd,
Pa bryd cawn roi fy mreichiau'n dyn
Am Olwen Glan Geirionnydd.
Cyfodai'r môr ei donnau'n uwch
Nes cuddio, am funudyn,
Y goleu, yn nhrochionnog luwch
Y gwynt ym mwng y moryn;
A meddwl wnes fod tynged ddu
Yn codi cwmwl newydd
I guddio goleu 'ngobaith cu
Am Olwen Glan Geirionnydd.
Ond trwy'r cymylau wedi hyn
Pelydrai llewyrch cynnes
I atgyfodi'r breuddwyd gwyn
Fu farw yn fy mynwes;
Yn swn y môr ffarweliodd cur
A 'ngarw laith obennydd;
Murmurai'r gwynt fod calon bur
Gan Olwen Glan Geirionnydd.
Anghofiais fâr y môr a'r gwynt
A chrwydrais mewn perlewyg
Yng nghwmni awel ar ei hynt
I ogof bell fynyddig;