Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Telynegion (Silyn).djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LIII.
CYFRINACH Y BEIRDD.

"Most wretched men
Are cradled into poetry by wrong,
They learn in suffering what they teach in song."
Shelley.


Pwy fyth, a glybu lais yr eos fwyn
Ogleisia'r nos â'i chyfareddol swyn,
Feddyliai, wrth ei chlywed yn telori,
Fod calon y gantores wedi torri?

Ar hyd ei gyfrin lwybrau ar y llyn
Heb si na swn mordwya'r alarch gwyn;
Ond gynted gwel ei fedd o dan y tonnau
Fe swyna'r byd â'i felus ddieithr seiniau.

Fe guddiwyd telyn yn y cwmwl du,
Adfeilion telyn ydyw'r enfys gu,
Y dymestl rodd ei bysedd ar ei thannau,
A llef y daran dorrodd ei llinynnau.

Fe ŵyr arlunydd y gyfrinach hon
Pan liwia'i ddarlun gyda gwaed ei fron;
Er mwyn i bryd duwiesau'r darlun wrido
Mae'n rhaid i rudd y prudd arlunydd lwydo.