Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Casgl y cregin i'w decáu —
Oni chlyw y llanw'n dyfod?
Her i'w Gastell gael ei gau
Gan y môr, fel Cantre'r Gwaelod.

Ofer fu'r saernïo hir, —
Newid bryd wna'r arglwydd bychan;
Myn i'r llanw ennill tir
Ar y Castell wnaeth ei hunan.

Chwardd y marchog, cymer ffon,
A thyrr gamlas yn y draethell,
Er mwyn gollwng llif y don,
Fel Seithenyn, at ei Gastell.

Beth yw'r môr, y glasfor maith, —
Beth yw llanw'r môr i blentyn?
Onid tegan —tegan llaith?
Cymar chwarae rhwng dau gyntun!

III.


Nawnddydd arall, ger y môr,
Eistedd brenin yn ei gadair;
Corsen teyrnas yn ei law,
Uwch ei arlais dalaith ddisglair:
Chwardd y feisdon oddi draw,
Chwardd yr haul ar emau'i goron;
Yntau gan ei ddoethed chwardd —
Chwardd y brenin yn ei galon.