Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Saif sidanog wŷr ei lys
Ar y traeth, gan sisial wrtho —
Rhaid i'r llanw pan y'th wêl,
Gilio'n ôl cyn hanner llifo:
Nid yw'r môr yn fwy na'th air,
Nid yw Duw yn fwy na'n brenin," —
Yntau gan ei ddoethed chwardd —
Chwardd y llanw yn y cregin.

Uwch a nes y dêl y llif,
Tros y tywod, tros y gwmon;
Ac ni chymer arno weld
Corsen aur a gemau'r goron:
Ebe'r brenin wrtho'i hun, —
Min y traeth a ddysg ddoethineb;
Os mai ffals yw gwŷr fy llys,
Nid yw'r môr dderbyniwr wyneb."

Pan y sisial ar y traeth,
Ond ni phaid y tonnau lifo,
Hyd nes gylch y nawfed don
Odre'r brenin, gan ei leithio:
Gwelwch," ebe yntau'n ddoeth,
Gan ostegu'r mwynder seithug,
'Nid yw'r Llanw 'n ofni teyrn,
Nid yw mawredd ond dychymyg."

IV.

Geilw y llanw ym mhorth y môr,
A chlywir ohoian ym mrig y dydd:
Codwch yr angor i fwrdd y llong,
Gollyngwch garcharor y trai yn rhydd;
Taenwch y lliain i gyd ar led,
Mae'r awel, fy mechgyn, a'r llif o'n tu "—
A dring yr angor i fwrdd y llong,
A dacw'r baneri'n cyhwfan fry.