Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

VI.


Cyffrous yw cri'r ystorm,
Wrth geuddor fy ystafell;
A dyna dwrf y lluwch
Yn dymchwel ar y draethell.

Mae llawer mam a mun
Yn dweud eu gweddi heno;
Ond byddar yw y môr,
Ac nid yw'r gwynt yn gwrando.

Ni ddaeth y cwch yn ôl,
Cyn iddi godi'n awel;
Ac ni eill serch gael hun,
Na phryder fod yn dawel.

Pwy ŵyr y ffordd i dir,
Heb loer na sêr i'w dywys?
A dwfn yw gwely'r môr,
A'i draethau yn fradwrus!

Bydd llawer mam a mun
Yfory ar y tywod,
Yn holi llanw'r wawr
Beth ddaeth o lanc a phriod?

Mae bara'n brin, yn brin,
A rhaid i wyr anturio;
Mae serch yn benyd oes,
A rhaid i riain wylo.