Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fy nghymrawd, pan ei adref,
Ac adref hebof fi,
Dos, galw gyda'm Creirwy —
Ti wyddost pwy yw hi;
A dywed iti glywed
Ei henw ar fy min,
Ar ddwthwn ola' 'mywyd,
Gerllaw y farwol ffin.

A dos a 'nghleddyf iddi —
Y bylchog hanner Hafn
Sy'n weddill —dos a hwnnw,
Ond sych y gwaed bob dafn:
Bydd Creirwy'n falch ohono,
A gŵyr, pan wêl y darn,
Mai nid deheulaw llwfrddyn
A gydia yn ei garn.

A dywed imi syrthio,
A 'ngwaed Cymreig yn llif,
Lle'r oedd yr ornest boethaf,
A'r meirw'n fwya'u rhif.
A syrthio fel gwnaeth Arthur,
A gwŷr yr hen Ford Gron, —
Fy wyneb at y faner,
A 'nghlwyfau ar fy mron.