Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cwsg, fy mhlentyn, heb dy fami —
Cwsg yn erw Duw;
Casglu blodau buom iti —
Sul y Blodau yw:
Chwe briallen fach a ddywed
Mai yr haf yw hi;
Cwsg o danynt heb eu gweled,
Cwsg, fy rhosyn i.

Beth i serch yw mis a blwyddyn?
Cwsg, fy nhlysaf un;
Onid ti yw'm hunig blentyn
Nad yw'n mynd yn hŷn?
Mae y lleill yn symud, symud,
Ac yn bryder im;
Ond nid felly di, f'anwylyd—
'Chrwydra'r marw ddim!

Tan y garreg las, Goronwy,—
Cysga beth yn hwy;
Rhaid yw dweud Nos da,” Goronwy,
Mynd a'th ado'r wy':
Nid oes eisiau llaw i'th siglo
Yn dy newydd grud;
Cwsg, nes gweld ein gilydd eto,
Cwsg, a gwyn dy fyd.