Pan ganai y fwyalch ddyhuddgloch,
Hwy aent i noswylio bob un;
A beth roddai segur bendefig
Y castell am noson o'u hun?
"Chwaraeai eu plant ar yr aelwyd,
Eu chwarae, fel ŵyn ar y ffridd;
Eu hoffter oedd torri eu henwau
Ar wyneb y pantlawr o bridd;
A mynych, ar hirnos o aeaf,
Y clywech eu canu fin hwyr;
Ac yna tawelwch gweddïo
Ar bopeth-y nefoedd a ŵyr.
"Cyfannedd, fy mhlant, oedd y mynydd
Gan rywrai, cyn plannu y coed,
Hyd angladd hen Yswain y castell,
A'r dydd daeth Llawhaiarn i'w oed;
'Mhen mis ar ôl hynny, daeth rhybudd
Ymadael, ar wys ac ar fant;
Aeth tadau a mamau i wylo,
A safodd chwaraeon y plant.
"Tan ergyd y gwae, y nos honno
Bu eiriol wrth ddrysau y nef;
A thrannoeth wrth ddrysau Llawhaiarn,
Ond byddar fel tynged oedd ef:
Ni fynnai fod mwy mewn cyfiawnder
Na gwneuthur a fynnai ei hun; —
Cyfiawnder yw chwalu cartrefi,
Os gwell yw petrisen na dyn.
Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/20
Gwedd
Gwirwyd y dudalen hon