Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mi gofiaf i 'medd yr ymadael —
Ar nos Galangaeaf bu hyn ;
Edrychai y lloer yn dosturiol
A'r ddaear gan farrug yn wyn —
Edrychai ar gaethglud yr ormes
Yn symud, fel angladd y byw!
Heb do, ond y nef wrth eu pennau —
Heb gyfaill yn unman, ond Duw.

"Ymlaen elai'r wledd yn y castell,
A gwinoedd Llawhaiarn yn waed;
Ymlaen elai'r ddawns, a chalonnau'r
Tyddynwyr yn ysig dan draed;
O Dduw! pam goddefir i fympwy
A thrais gael diffeithio y byd?
Ai byth y bydd bywyd mor ddibris?
Ai byth y bydd Rhyddid mor ddrud?

"Yr ydych yn teimlo, fy mechgyn,
Mi welaf eich dial yn fflam
Yn cynnau yn wyllt yn eich llygaid,
Wrth wrando ystori y cam;
Mynegwch hi'r nos i fy ŵyrion,
Gan ddweud fel y dwedai eich tad —
Boed melltith ar gastell Llawhaiarn,
A'r felltith yn fendith i'w had!"