Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GWYLAN

Yn ymyl y môr y mae caban,
Un caban yn ymyl y môr;
Ei gerrig yn llyfn ac yn wynion,
A'r gwmon yn bêr wrth ei ddôr:
Ac yno mae merch elwir Gwylan —
Ieuengaf a thecaf ei thad;
Gwylanod y môr ei llateion,
Ac erwau y môr ei hystad.

Un lon fel chwerthiniad yw Gwylan,
Chwareus, a pheryglus o ffraeth;
Nid dwyrudd liw'r ewyn sydd iddi,
Ond dwyrudd liw tywod y traeth:
Chwiorydd yw'r awel a hithau —
Hi'n felys, a'r awel yn hallt:
Mae glesni y môr yn ei llygad,
A chrychni y môr yn ei gwallt.

Os serchus ei henw yw Gwylan,
Mwy serchus yw Gwylan ei hun;
Ni ellir ei gweld heb ei charu,
Ond ni eill hi garu ond un:
Os Llion y cychwr y’m gelwir,
'Waeth gennyf pa swynwr a ddaw —
Myfi bia gusan ei gwefus,
Myfi bia'i chalon a'i llaw.


Nodyn:Div ends