Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar ddistyll y trai, pan ollyngaf
Fy nghwch o'i fordwyfa yn rhydd,
Bydd Gwylan yng nghysgod y caban
Yn sefyll a'i llygad yn brudd:
Mae'r eigion yn ffals," meddai wrthyf,
"A llithiwr hudolus yw'r trai;
O Llion, ni fedraf ei garu,
Heb garu fy Llion yn llai!"

Ond pan gyda'r llanw dychwelaf
I'r gilfach, er gwell ac er gwaeth,
Bydd Gwylan, a'i llygad yn llonnach,
Yn sefyll ar leithder y traeth:
Gwna gymod diwrnod â'r eigion,
A geilw ei hofn yn beth ffôl —
Mae Gwylan yn caru y llanw,
Mae'n dyfod a Llion yn ôl.