Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PRIODAS HUN.

Ar fwsog lawr Mehefin
Yng nghysgod onnen las,
Breuddwydiai rhiain ieuanc
Freuddwyd am serch a chas.

Ai merch y lloergan ydoedd,
Neu dylwyth teg y gwydd
Yn flin ar ôl y nosddawns,
Ac wedi cysgu i'r dydd?

'Roedd ganddi fysedd gwynion,
Ac ar y gwynnaf un
'Roedd modrwy dyweddiad,
Fel pleth o'i gwallt ei hun:

Y gwallt ddisgynnai'n felyn
Ddiofal, ar wahân
Dros las ei llygad caead,
Yn fil pelydrau mân.

Breuddwydiai'r rhiain freuddwyd
Hudolus dlws ac erch,
Yng ngofid llonnaf bywyd,
Yng ngwynfyd chwerwaf serch.

Yng nghanol ei gwyryfon
Yn wyryf gwelai'i hun;
Ei dydd priodas ydoedd,
Ei dydd melysaf un.