Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Trwy'r dellt yr haul dywynnai
Ar chwaer i'r lili wen;
Trwy'r dellt, edrychai hithau
Am nefoedd las uwchben.

Gwrandawai'r clychau'n canu,
Fel gwnaethent lawer tro;
A gwyddai fod ei henw
Ar fin cariadau'r fro.

Ai'r cerbyd gwynfeirch heibio
Yng nghanol llygaid syn;
Hi glywai sibrwd rhywbeth
A'i gwnaeth yn wyn, yn wyn.

Arafai ger yr allor,
Arafai yn ei braw —
Nid oedd priodfab yno
Yn disgwyl am ei llaw.

"O Aled, Aled," meddai
Mewn syndod, trwy ei hun;
"Tydi, fy mhopeth puraf,
Yn caru mwy nag un!"

Breuddwydiai fod y galon
Oedd ar ei modrwy'n ddwy;
A thoriad yn ei chalon
Ei hunan oedd yn fwy.

Ni wybu ddim ond hynny-
O'i hun deffrôdd, o'i braw —
'Roedd modrwy serch yn gyfa',
A mab ei serch gerllaw.